Profi sut yr oedd rhaglen Alacrity yn cefnogi talent entrepreneuraidd yng Nghymru

Roedd y rhaglen yn cynnwys carfanau o raddedigion yn ymuno â rhaglen 15 mis, lle’r oeddent yn derbyn mentora gan arbenigwyr yn y diwydiant, hyfforddiant busnes a chymorth deori i ddatblygu a gweithredu syniadau ar gyfer cynhyrchion digidol newydd.

Defnyddiodd y gwerthusiad ddull ymchwil cymysg, gan ymgysylltu â rhanddeiliaid ac alumni rhaglen Alacrity, ynghyd â chasglu, dadansoddi a modelu tystiolaeth feintiol i asesu’r effaith a’r gwerth ychwanegol. Archwiliodd yr ymchwil pa mor effeithiol yr oedd y rhaglen yn cefnogi cyfranogwyr i sefydlu busnesau, ac asesodd ei heffaith a’i gwerth am arian drwy ddadansoddi’r enillion ar fuddsoddiad.

Defnyddiodd y gwerthusiad (a gyhoeddwyd yma) y sail dystiolaeth i ddarparu canllawiau clir ar gyfer penderfyniadau yn y dyfodol a phenderfyniadau ynghylch cyllid parhaus ar gyfer Cynllun Alacrity.

Mae’r adroddiad ar gael i’w ddarllen yma.