Helpu Llywodraeth yr Alban i baratoi ar gyfer gwerthuso datblygiad clystyrau yn y dyfodol
Cefnogodd Wavehill a Hall Aitken Lywodraeth yr Alban i ddylunio fframwaith gwerthuso cadarn ar gyfer Rhaglen Datblygu Clystyrau sy’n dod i’r amlwg yn yr Alban. Mae’r fenter uchelgeisiol hon, sydd wrth wraidd Strategaeth Arloesi Genedlaethol yr Alban, yn anelu at gryfhau economi’r Alban drwy feithrin clystyrau dan arweiniad diwydiant mewn sectorau allweddol megis ynni gwynt ar y môr, gwyddorau bywyd, fintech a gweithgynhyrchu uwch. Bydd y rhaglen yn dod â busnesau, y byd academaidd ac asiantaethau cyhoeddus ynghyd er mwyn ysgogi cydweithio, arloesi a thwf..