Canfyddiadau astudiaeth ddeng mlynedd o raglen twf, sgiliau ac adfywio
Defnyddiwyd dull dadansoddi cyfraniad gan y gwerthusiad i helpu i asesu’r effeithiau, gan dynnu ar gyfres o ddamcaniaethau ar gyfer pob elfen o’r rhaglen. Cyfunodd y gwerthusiad fewnwelediadau o ystod eang o ffynonellau tystiolaeth ar draws y tair elfen, o fewnwelediadau gan randdeiliaid ac ymchwil sylfaenol, i adolygu adroddiadau ar lefel prosiect a dadansoddi data eilaidd, er mwyn deall sut yr oedd gweithgarwch wedi trosi’n ganlyniadau y gellid eu harsylwi. Fodd bynnag, cyfyngwyd ar y gwerthusiad gan ansawdd data monitro’r rhaglen a’r anallu i ymgysylltu â gweithgareddau a gynhaliwyd yn gynnar yn y rhaglen, a oedd yn cyfyngu ar y gallu i olrhain canlyniadau ac effeithiau.
Felly, y prif ganfyddiadau o’r gwerthusiad oedd, er bod rhai newidiadau wedi bod mewn dangosyddion eilaidd ym Mlaenau Gwent a’r cymoedd cyfagos, ei bod yn anodd, hyd yn oed wrth gyfuno ffynonellau tystiolaeth, briodoli’r newidiadau hyn i’r rhaglen. Roedd yr argymhellion ar gyfer rhaglenni o’r raddfa hon yn y dyfodol yn cynnwys sicrhau bod gwaith monitro a gwerthuso cynhwysfawr yn cael ei gynnwys o’r cychwyn cyntaf, er mwyn sicrhau bod systemau ar waith i alluogi asesiadau mwy effeithiol o effaith.
Mae’r adroddiad terfynol yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru i lywio’r gwaith o gyflawni gweddill y rhaglen a dylunio rhaglenni yn y dyfodol, yn ogystal â chefnogi datblygu polisïau sy’n ymwneud â lleoliad a thiriogaeth.