Gwerthuso Rhaglen Trawsnewid Trefi Cymru gwerth £400m

Archwiliodd y gwerthusiad y broses a’r effaith, gan ddod â sawl elfen o dystiolaeth ynghyd drwy ddull gwerthuso realydd i ddangos beth oedd yn gweithio ac ym mha gyd-destunau, gan adlewyrchu bod angen hyblygrwydd ar ddarpariaeth leol yn hytrach na dull unffurf sy’n addas i bawb.

Defnyddiwyd mewnwelediadau gan randdeiliaid, dogfennaeth y rhaglen a phrosiectau, dadansoddiad astudiaethau achos, ac ymchwil sylfaenol gyda defnyddwyr canol trefi er mwyn deall perfformiad y rhaglen ac effeithiau lleol. Dangosodd y canfyddiadau, er bod Trawsnewid Trefi wedi llwyddo i ddosbarthu cyllid a chefnogi ystod o ymyriadau adfywio, ei bod yn heriol dangos pa rai o’r ymyriadau hyn sydd wedi cael yr effaith fwyaf ac, felly, dysgu sut i fuddsoddi’n well yn y dyfodol.

Byddai dull monitro a gwerthuso cryfach, wedi’i ymgorffori o ddechrau unrhyw raglen yn y dyfodol, yn helpu i wella hyn a chryfhau’r sail resymegol dros fuddsoddi. Felly, paratôdd tîm Wavehill ddogfen ganllaw gynhwysfawr ar fonitro a gwerthuso i Lywodraeth Cymru ei defnyddio wrth symud ymlaen, yn ogystal ag adroddiadau ac argymhellion y gwerthusiad.

Mae’r canllawiau a’r argymhellion yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru i wella’r dull o ymdrin â gweithgarwch adfywio yng Nghymru, gan gynnal cryfderau’r rhaglen bresennol. Mae strategaeth gynhwysfawr sy’n seiliedig ar le yn cael ei datblygu, a bydd model cyllido hyblyg sy’n cael ei arwain yn lleol yn sail iddi, ynghyd â gwelliannau o ran dangos arferion gorau ac ymyrryd yn y ffordd fwyaf priodol.