Gwerthuso Cymorth Busnes Economi Gylchol yn Llundain
Mewn cydweithrediad â ReLondon, cyflwynodd Wavehill asesiad crynodol o’r rhaglen Trawsnewid Busnes a ariannwyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Cynlluniwyd yr asesiad i fesur sut y cyflawnwyd egwyddorion economi gylchol, arloesedd a thwf ar draws busnesau Llundain.
Roedd y gwerthusiad dulliau cymysg yn integreiddio ymgynghoriadau â rhanddeiliaid, arolwg o fuddiolwyr ac adolygiad o ddata’r rhaglen. Defnyddiwyd model pwrpasol o effaith economaidd i feintioli’r buddion ychwanegol net, gan gynnwys y canlyniadau bwriadol a’r canlyniadau ehangach.
Prif Ganfyddiadau
• Galluogodd y rhaglen y busnesau a gymerodd ran i ymgorffori dulliau economi gylchol, gan gryfhau eu gallu i arloesi.
• Dangosodd y dystiolaeth effaith economaidd glir a gwerth da am arian, gan gefnogi datblygiad y rhaglen yn y dyfodol.
• Defnyddiwyd y canlyniadau i lywio ceisiadau llwyddiannus am gyllid newydd, gan sicrhau parhad y cymorth i fusnesau.
Defnyddiwyd y dystiolaeth a gynhyrchwyd drwy’r gwaith i gefnogi cais llwyddiannus i’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, y bu Wavehill yn helpu i’w adolygu. Galluogodd hyn y rhaglen i ddatblygu ymhellach a pharhau y tu hwnt i gyfnod gwreiddiol y rhaglen.