Gwerthuso Cronfa Rheoli Achosion Covid (COMF)
Lansiwyd Cronfa Rheoli’r Achos COVID (COMF) gan Gyngor Sir Durham i gynorthwyo gweithgarwch diwylliannol a chymunedol a gyflwynir mewn ffordd ddiogel o ran Covid-19. Cyflwynwyd dwy raglen grant adfer drwy COMF, a gynlluniwyd i gyd-fynd â’r amcanion iechyd cyhoeddus a ddeilliodd o adolygiad 2020 o Adroddiad Marmot, yn benodol o ran mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a’r penderfynyddion cymdeithasol sylfaenol.
Nid yw effaith Covid-19 ar iechyd a llesiant pobl wedi’i theimlo’n gyfartal ar draws cymdeithas, ond mae wedi cyfrannu’n anghymesur at ganlyniadau iechyd negyddol i’r rhai sydd eisoes dan anfantais mewn cymdeithas. Bydd yr effeithiau dyfnach hyn ar iechyd a llesiant, cymunedau a chydlyniant yn cael effeithiau sylweddol ar y DU am flynyddoedd lawer i ddod.
Ein hymagwedd
Effaith
Mae ein gwerthusiad o ddigwyddiadau COMF yn dangos ystod o ganlyniadau llesiant sy’n gysylltiedig â meithrin balchder dinesig, adeiladu ymdeimlad o berthyn, mynd i’r afael ag unigedd cymdeithasol ac unigrwydd, meithrin ymddiriedaeth, a darparu cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol ystyrlon. Gyda’i gilydd, mae hyn yn helpu i adeiladu cyfalaf cymdeithasol ac isadeiledd cymdeithasol mewn sawl ardal o amddifadedd. Mae ein gwerthusiad hefyd yn dangos bod cronfa COMF wedi darparu cyfraniad uniongyrchol at uchelgeisiau ac amcanion sydd wedi’u cynnwys yng ngweledigaeth y sir a’i Strategaeth Iechyd a Llesiant.
Ffeithiau Allweddol
Mae Rhaglen COMF wedi ariannu cyfanswm o 64 o ddigwyddiadau ledled y sir yn ystod 2021/22, gan gynnwys:
- 21 o ddigwyddiadau diwylliannol cymunedol newydd
- 40 o ddigwyddiadau diwylliannol cymunedol presennol
- 3 digwyddiad Coffa
Mae’r tîm gwerthuso yn amcangyfrif bod tua 90,000 o bobl wedi ymgysylltu â gweithgareddau a ariannwyd gan COMF, naill ai fel aelodau o’r gynulleidfa neu fel cyfranogwyr.