Rural Futures: helpu cymunedau i feithrin y sgiliau, hyder a’r gallu i arwain newid lleol

Beth wnaethom

Cyflwynodd Wavehill werthusiad annibynnol o’r haglen drwy gydol ei hoes. Yn hytrach nag asesu effeithiau ar y diwedd yn unig, cafodd canfyddiadau eu bwydo’n ôl wrth i’r rhaglen fynd rhagddi, gan alluogi i ddysgu gael ei ymgorffori wrth gyflawni’r rhaglen a helpu partneriaid i addasu eu dull gweithredu wrth i amgylchiadau newid.

Cyfunodd y gwerthusiad ddadansoddiad o ddata monitro’r rhaglen ag arolygon, cyfweliadau ac ymchwil astudiaethau achos yn cynnwys aelodau o’r gymuned, rhanddeiliaid, staff cyflawni a Chydlynwyr Lleoedd. Roedd y cam olaf yn cynnwys 127 o ymatebion i arolwg cymunedol, cyfweliadau â rhanddeiliaid, a dadansoddiad o bron i 2,000 o ymgysylltiadau cofnodedig â chymunedau.

Beth a ganfuom

Canfu’r gwerthusiad dystiolaeth gref fod Dyfodol Gwledig wedi helpu cymunedau i feithrin sgiliau, hyder a gallu i arwain newid lleol. Sicrhaodd deuddeg o’r pedair ar ddeg o gymunedau a gymerodd ran gyllid ar gyfer prosiectau a ddatblygwyd drwy’r rhaglen yn ddiweddarach.

Canfyddiad allweddol oedd pwysigrwydd Cydlynwyr Lleoedd medrus wrth feithrin ymddiriedaeth, cefnogi cydweithio a helpu cymunedau i symud o drafodaeth i weithredu. Amlygodd y gwerthusiad hefyd bwysigrwydd perchnogaeth gymunedol, hyblygrwydd wrth ddylunio rhaglenni a buddsoddiad hirdymor mewn datblygu cymunedol.

Pam mae hyn yn bwysig

Mae’r canfyddiadau’n dangos y gall dulliau dan arweiniad y gymuned helpu cymunedau gwledig i gryfhau gallu lleol, datblygu partneriaethau effeithiol a dod yn fwy gwydn yn wyneb heriau’r dyfodol. Cynhyrchodd y gwerthusiad hefyd wersi ymarferol i gyllidwyr a llunwyr polisi ynghylch sut y gellir dylunio a chyflwyno rhaglenni sy’n seiliedig ar leoedd yn fwy effeithiol.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am raglen Dyfodol Gwledig a chopi o’r adroddiad gwerthuso yma: Dyfodol Gwledig – Severn Wye

Am ragor o wybodaeth am y gwerthusiad hwn, cysylltwch ag Endaf Griffiths – endaf.griffiths@wavehill.com