Gwerthusiad o ynni adnewyddadwy morol alltraeth ar gyfer MEECE Catapult
Datblygodd Catapult Ynni Adnewyddadwy Alltraeth (rhan o Innovate UK) y Ganolfan Ragoriaeth Peirianneg Ynni Morol (MEECE) yn Noc Penfro, De-orllewin Cymru, i ddarparu cymorth arloesi ar gyfer gweithgareddau ynni adnewyddadwy morol sy’n cael eu cynnal o amgylch arfordir Cymru.
Ein hymagwedd
Cwblhaodd Wavehill werthusiad cychwynnol, gan ddatblygu’r offer a’r fframweithiau y byddai gweithrediad MEECE yn cael ei asesu yn eu herbyn. Edrychodd gwerthusiad interim ar y prosesau yr oedd MEECE wedi’u rhoi ar waith i gyflawni’r prosiect ac archwilio cyfleoedd i’w gwella, gan dynnu ar dystiolaeth sylfaenol a gasglwyd drwy ymgynghoriadau manwl â’r sefydliadau a gefnogwyd a rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
Effaith
Mae’r gwerthusiad wedi helpu gweithrediad MEECE i nodi heriau a gwella ei swyddogaethau cyflawni, gan sefydlu’r hyn a gyflawnwyd hyd yma.
Bydd yr effeithiau a nodwyd yn cefnogi ceisiadau am gyllid yn y dyfodol ac yn dangos y cyfleoedd y mae rhaglenni cymorth cydweithredol o’r fath yn eu cynnig i hwyluso datblygiad ynni adnewyddadwy.