LEADER: Datblygiad cymunedol yng nghefn gwlad Cymru
Mae LEADER yn ddull o ddatblygu gwledig dan arweiniad y gymuned sydd wedi cael ei weithredu ledled Ewrop ers y 1990au. Wrth wraidd y dull mae Grwpiau Gweithredu Lleol (LAGs), sy’n dod â phartneriaid o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol ynghyd i nodi blaenoriaethau lleol, cefnogi arloesedd a datblygu atebion dan arweiniad y gymuned i heriau lleol. Archwiliodd y gwerthusiad hwn weithrediad LEADER yng Nghymru fel rhan o Raglen Datblygu Gwledig 2014–2020 ac asesodd ei gyfraniad at ddatblygu gwledig ledled y wlad.
Beth wnaethom
Cynhaliodd Wavehill werthusiad seiliedig ar theori gan gyfuno dadansoddiad o ddata monitro’r rhaglen ag adolygiadau llenyddiaeth, cyfweliadau â rhanddeiliaid, arolygon ac ymchwil astudiaethau achos. Ymgysylltodd yr astudiaeth â swyddogion Llywodraeth Cymru, cynrychiolwyr Grwpiau Gweithredu Lleol (LAGs), sefydliadau cyflawni, prosiectau a ariannwyd, a rhanddeiliaid ehangach o bob rhan o Gymru wledig.
Archwiliodd y gwerthusiad y canlyniadau a gynhyrchwyd gan weithgarwch a ariannwyd drwy LEADER, yn ogystal ag effeithiolrwydd y dull LEADER ei hun, gan gynnwys ymgysylltu â’r gymuned, llywodraethu lleol, rhwydweithio, cydweithio a chymorth ar gyfer arloesedd. Adolygwyd mwy na 700 o brosiectau fel rhan o’r ymchwil.
Beth a ganfuom
Canfu’r gwerthusiad fod LEADER wedi cynhyrchu manteision a oedd yn ymestyn y tu hwnt i’r prosiectau a ariannwyd ganddo. Helpodd y cyfuniad o wneud penderfyniadau’n lleol, ymgysylltu â’r gymuned, cymorth i ddatblygu prosiectau a chyllid i gryfhau partneriaethau, meithrin gallu lleol ac annog cyfranogiad ehangach mewn datblygu gwledig.
Canfu’r ymchwil hefyd fod LEADER wedi chwarae rhan bwysig wrth gefnogi arloesedd a phrofi dulliau newydd o fynd i’r afael â heriau lleol. Ledled Cymru, aeth prosiectau i’r afael ag ystod eang o faterion, gan gynnwys gwasanaethau cymunedol, economïau lleol, diwylliant, ynni adnewyddadwy a thechnoleg ddigidol.
Pam mae hyn yn bwysig
Amlygodd y gwerthusiad werth dulliau hirdymor o ddatblygu gwledig dan arweiniad y gymuned. Daeth i’r casgliad fod manteision LEADER yn deillio nid yn unig o’r prosiectau a gefnogwyd, ond hefyd o’r ffordd yr oedd y dull yn dod â chymunedau ynghyd, yn datblygu syniadau lleol ac yn creu cyfleoedd ar gyfer gweithgarwch a buddsoddi yn y dyfodol.
Am ragor o wybodaeth am y prosiect hwn, cysylltwch ag Endaf Griffiths – endaf.griffiths@wavehill.com
Mae’r adroddiad ar gael i’w ddarllen yma