Gwerthusiad o Adolygiadau Gyrfa Gweithio Cymru

Mewn ymateb, comisiynodd Llywodraeth Cymru Wavehill i gynnal adolygiad o raglen Adolygiadau Gyrfa Gweithio Cymru ar Ganol Gyrfa, sef menter i annog gweithwyr 50 oed a hŷn i ystyried yn rhagweithiol eu datblygiad gyrfa, eu sgiliau, eu hiechyd, eu llesiant, eu diogelwch ariannol a’u cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Gyda nifer cynyddol o bobl hŷn yn wynebu heriau yn y gweithle, mae’r fenter hon wedi chwarae rhan hollbwysig wrth hyrwyddo cyflogadwyedd hirdymor a thwf personol mewn gweithlu sy’n heneiddio.

Esblygiad Adolygiadau Gyrfa ar Ganol Gyrfa

Nod Adolygiadau Gyrfa ar Ganol Gyrfa oedd mynd i’r afael â’r heriau economaidd a ddaeth i’r amlwg yn sgil pandemig Covid-19, yn ogystal â heriau economaidd hirdymor sy’n deillio o newidiadau demograffig, gan gynnwys arafu cyfraddau genedigaethau a phoblogaeth sy’n heneiddio ledled Cymru. Gan gydnabod y gwerth a’r profiad y mae pobl hŷn yn eu cyfrannu at y gweithlu, ochr yn ochr â’r gwahanol anghenion cyflogaeth a chymorth sydd eu hangen, ceisiodd yr Adolygiad Gyrfa ar Ganol Gyrfa ymgysylltu’n rhagweithiol â’r garfan hon drwy ymgyrch farchnata wedi’i thargedu.

Mae ein hymchwil yn dangos bod ymgorffori’r gwasanaeth penodol hwn yn y cynnig ehangach o gymorth cyflogaeth gan Weithio Cymru wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy at y broses adolygu gyrfa. Er iddo gael ei fwriadu i ddechrau ar gyfer unigolion dros 50 oed, drwy ei leoliad o fewn Weithio Cymru, mae’r gwasanaeth wedi gallu cyrraedd ystod ehangach o bobl. Mae llawer wedi nodi eu bod wedi elwa mwy o adolygiad gyrfa nag yr oeddent wedi’i ddisgwyl yn wreiddiol. Awgrymwyd bod llawer wedi bod â’r camsyniad mai dim ond i bobl ifanc neu bobl ddi-waith y gallai arweiniad gyrfa fod yn fuddiol, neu mai dim ond cam tuag at sicrhau hyfforddiant ydoedd. Fodd bynnag, mae ein hymchwil yn dangos y gall adolygiad gyrfa wedi’i deilwra gael effaith sylweddol, beth bynnag fo oedran yr unigolyn.

Gan ddefnyddio ein sail dystiolaeth a mewnwelediadau o bob rhan o Gymru, y DU ac yn rhyngwladol ynghylch sut mae Adolygiadau Gyrfa wedi cael eu gweithredu mewn cyd-destunau eraill, roeddem yn gallu dangos enghreifftiau o arferion gorau ar gyfer cefnogi gweithwyr (hŷn) i barhau â’u taith gyflogaeth.

Ymchwil Wavehill: Dull Cynhwysfawr o Gefnogi Ceiswyr Gwaith

Mae ymchwil Wavehill i Adolygiadau Gyrfa ar Ganol Gyrfa yn gysylltiedig â gwerthusiad ehangach o raglen Weithio Cymru. Mae hyn wedi cynnwys gwerthuso ystod o wasanaethau sy’n darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad wedi’u cynllunio i gefnogi carfannau amrywiol o geiswyr gwaith dros 16 oed ledled Cymru. Adolygodd ein gwerthusiad hefyd y cymorth y mae’r rhaglen wedi’i ddarparu ar gyfer grwpiau gwahanol megis mudwyr a ffoaduriaid. Roedd ein gwerthusiad strategol yn adlewyrchu ymrwymiad cyffredinol y rhaglen i sicrhau bod pob unigolyn, waeth beth fo’i leoliad neu gefndir, yn cael y cymorth sydd ei angen arno, ac yn ystyried sut y gall y gwasanaeth barhau i gefnogi ceiswyr gwaith i lywio marchnad swyddi sy’n newid yn barhaus.

Mae ymchwil Wavehill i’r Adolygiad Gyrfa ar Ganol Gyrfa, ochr yn ochr â’i werthusiadau ehangach o raglen Weithio Cymru, yn pwysleisio pwysigrwydd hyblygrwydd a chymorth wedi’i deilwra. Wrth i’r gweithlu barhau i newid, mae ymyriadau wedi’u targedu fel Adolygiadau Gyrfa yn hanfodol er mwyn helpu unigolion i reoli eu gyrfaoedd a chynllunio ar gyfer y dyfodol.