Pwysigrwydd gweithredu lleol dros natur i gefnogi cymunedau a llesiant
Cynhaliodd Wavehill werthusiad o raglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur ar ran Llywodraeth Cymru rhwng 2021 a 2022. Asesodd y gwaith pa mor effeithiol yr oedd y cynllun yn cefnogi’r gwaith o greu ‘natur ar garreg eich drws’, gan archwilio hefyd y trefniadau cyflawni ar draws ei dri chynllun cyfansoddol a’r rhaglen ehangach.
Roedd y gwerthusiad yn canolbwyntio ar y broses o weithredu’r rhaglen a’i heffeithiau cynnar. Archwiliodd sut yr oedd y gweithgarwch a ariannwyd yn cyfrannu at greu, adfer a gwella mannau gwyrdd lleol, ynghyd â phrofiadau a chanlyniadau’r cymunedau a’r unigolion a gymerodd ran.
Defnyddiwyd dull dulliau cymysg a oedd yn cyfuno cyfweliadau, arolygon, gweithdai ac ymchwil astudiaethau achos. Darparodd hyn ddealltwriaeth strwythuredig o’r ffordd yr oedd y gwaith cyflawni yn gweithredu ar draws gwahanol leoliadau a chynulleidfaoedd.
Yr hyn a gyflawnwyd
Ar draws y rhaglen, roedd y gweithgarwch yn canolbwyntio ar ymyriadau ar raddfa fach a arweiniwyd yn lleol.
Roedd y rhain yn cynnwys:
• Gerddi cymunedol, perllannau cymunedol a mannau tyfu bwyd
• Plannu blodau gwyllt a chreu cynefinoedd i beillwyr
• Plannu coed a chreu cynefinoedd
• Newidiadau i arferion rheoli tir
• Gosod seilwaith gwyrdd mewn ardaloedd trefol
Roedd y modelau cyflawni yn amrywio o becynnau cymorth parod ar gyfer grwpiau cymunedol i brosiectau mwy a ariannwyd drwy grantiau, gyda’r gwaith yn cael ei gefnogi gan bartneriaethau ar draws ardaloedd lleol.
Yr hyn a ddangoswyd gan y gwerthusiad
Dangosodd tystiolaeth o’r arolygon a’r mewnwelediadau ansoddol sut yr oedd cyfranogiad yn dylanwadu ar gymunedau ac unigolion.
• Dywedodd 95 y cant o’r ymatebwyr fod eu prosiect wedi cyfrannu at greu mynediad lleol at natur.
• Nododd tua phedwar o bob pump welliannau yn eu lles corfforol a meddyliol.
• Dywedodd 81 y cant eu bod yn fwy tebygol o gefnogi mentrau natur lleol ar ôl cymryd rhan.
• Nododd 72 y cant fod cyfranogiad grwpiau difreintiedig neu grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol wedi cynyddu.
Roedd y prosiectau hefyd yn cefnogi canlyniadau ehangach i gymunedau. Disgrifiodd y cyfranogwyr:
• Fwy o gyfranogiad gan wirfoddolwyr
• Datblygu sgiliau newydd
• Cysylltiadau cymdeithasol cryfach
• Mwy o ddefnydd o fannau gwyrdd lleol
Estynnodd Partneriaethau Natur Lleol yr effaith hon drwy gydlynu’r gwaith cyflawni a chynyddu ymgysylltiad â sefydliadau a grwpiau, gan gynnwys y rhai nad oeddent yn draddodiadol yn ymwneud â gweithgarwch ym maes natur.
Deall y dulliau cyflawni ac ymgysylltu
Archwiliodd y gwerthusiad sut yr oedd gwahanol ddulliau cyflawni yn dylanwadu ar y canlyniadau:
• Roedd y pecynnau cymorth parod yn darparu pwyntiau mynediad hygyrch i grwpiau cymunedol.
• Roedd strwythurau partneriaeth yn galluogi cydlynu a rhannu gwybodaeth.
• Roedd gweithgarwch wedi’i dargedu yn canolbwyntio ar ardaloedd lle’r oedd mynediad at natur yn gyfyngedig.
Ar draws yr astudiaethau achos, roedd cyfranogiad gwirfoddolwyr a pherchnogaeth leol yn ganolog i’r gwaith cyflawni ac i’r defnydd parhaus o’r mannau gwyrdd.
Darparodd y gwaith sylfaen dystiolaeth i Lywodraeth Cymru ynghylch sut yr oedd y rhaglen yn gweithredu yn ymarferol, gan amlygu sut yr oedd gweithgarwch lleol, gweithio mewn partneriaeth ac ymgysylltu â chymunedau yn cyfrannu at ganlyniadau amgylcheddol, cymdeithasol a llesiant. Llywiodd hyn ddatblygiad y rhaglen yn y dyfodol drwy egluro sut yr oedd y modelau cyflawni yn cefnogi cyfranogiad a sut yr oedd yr effeithiau cynnar yn cael eu profi ar lefel gymunedol.
• Cyfanswm cyllid y rhaglen yn 2021–22 oedd £8.741 miliwn.
• Darparwyd 279 o becynnau cymunedol yn ystod 2021–22.
• Gwellwyd 2.34 hectar o dir.
• Crëwyd 157 o berllannau cymunedol a 117 o fannau tyfu bwyd.
• Cyfrannodd 1,930 o gyfranogwyr gyfanswm o 20,350 o oriau gwirfoddoli.
• Cofnodwyd 347 o gyfarfodydd partneriaeth, ynghyd â chynnydd mewn ymgysylltiad gan bartneriaid.
Mae’r adroddiad ar gael i’w ddarllen yma.