A all cymorth cynnar mewn ysbytai helpu pobl i symud tu hwnt i drais?
Gwerthusodd Wavehill Raglen Llywiwr Ysbytai De Swydd Efrog ar ran Awdurdod Cyfun Maerol De Swydd Efrog. Archwiliodd y gwaith sut yr oedd cymorth an-glinigol, wedi’i lywio gan ddealltwriaeth o drawma, yn helpu pobl a oedd yn mynychu’r Adran Achosion Brys yn dilyn trais, cam-drin domestig, ecsbloetio neu fregusrwydd cysylltiedig. Asesodd hefyd gyfraniad y rhaglen at leihau nifer y mynychiadau i’r ysbyty sy’n gysylltiedig â thrais a chryfhau’r cymorth ar draws gwasanaethau ysbytai a gwasanaethau cymunedol, gan gyfrannu at ddull iechyd cyhoeddus o atal trais.
Cyfunodd y gwerthusiad ymchwil ansoddol, data monitro’r rhaglen a dadansoddiad lled-arbrofol o gofnodion yr Adran Achosion Brys. Roedd y gwaith yn cynnwys:
• Cyfweliadau â Llywwyr, staff clinigol a sefydliadau atgyfeirio
• Adborth gan gleifion
• Adolygiadau o astudiaethau achos cleifion a data monitro
• Cymhariaeth ystadegol gan ddefnyddio paru sgoriau tuedd rhwng cleifion a gafodd gymorth a grŵp hanesyddol cyfatebol, gan gyrraedd Lefel 4 ar Raddfa Dulliau Gwyddonol Maryland
Ymgysylltodd y Llywwyr â phobl ar adeg pan oeddent yn fwy tebygol o fod yn barod i dderbyn cymorth. Roedd eu profiad byw, eu dull hawdd mynd atynt a’u hannibyniaeth oddi wrth dimau clinigol yn helpu cleifion i ddatgelu niwed, trafod eu hanghenion ac adeiladu ymddiriedaeth. Profodd cyswllt wyneb yn wyneb cychwynnol yn arbennig o bwysig. Ymhlith yr atgyfeiriadau lle cofnodwyd y dull cyswllt, ymgysylltodd 70% o’r bobl y cysylltwyd â nhw gyntaf yn yr ysbyty yn llwyddiannus, o’i gymharu â 17% o’r rhai y cysylltwyd â nhw gyntaf o bell.
Derbyniodd cleifion sicrwydd emosiynol ochr yn ochr â chymorth ymarferol gyda thai, apwyntiadau, asesiadau risg a mynediad at wasanaethau arbenigol. Ystyriwyd y Llywwyr yn gyswllt hanfodol rhwng cleifion a chymorth pellach. Nododd partneriaid atgyfeirio fod y wybodaeth a rannwyd gan y Llywwyr yn cefnogi ymatebion cyflymach, yn lleihau dyblygu ac yn gwella dealltwriaeth o amgylchiadau’r cleifion