Archwilio gwerth cyllid ar gyfer cynyrchiadau sgrin yng Nghymru

Sefydlodd ein gwaith fframwaith cyson ar gyfer gwerthuso effeithiau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol, a chryfhau’r sail dystiolaeth ar gyfer penderfyniadau cyllido yn y dyfodol.

Ein hymagwedd

  • Datblygwyd fframwaith effaith strwythuredig i ddal effeithiau economaidd uniongyrchol, anuniongyrchol ac anwythol, yn ogystal ag effeithiau ehangach ar ddatblygu stiwdios, sgiliau, twristiaeth a digwyddiadau diwylliannol.
  • Cyfunwyd modelu economaidd â thystiolaeth o’r sector er mwyn cysylltu mewnbynnau ariannol â gweithgareddau ar draws cynhyrchu, cadwyni cyflenwi a sectorau cysylltiedig.
  • Cefnogwyd partneriaid gydag offer monitro ymarferol ac ymgysylltwyd â rhanddeiliaid drwy gydol y broses gyflawni.

Effaith

  • Ariannodd £23.7 miliwn o gyllid Creadigol Cymru gynhyrchiant o £263.9 miliwn mewn gwariant cynhyrchu yng Nghymru.
  • Cefnogwyd dros 2,500 o swyddi cyfwerth ag amser llawn (FTE) yng Nghymru drwy gynyrchiadau a ariannwyd.
  • Cyfanswm effaith Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) o £177.8 miliwn i economi Cymru.
  • Darparwyd 425 o gyfleoedd hyfforddi ar draws 43 o gynyrchiadau.

Dangosodd ein hastudiaeth sut mae cyllid cynhyrchu yn sbarduno manteision ehangach, gan ysgogi twristiaeth, galluogi datblygu sgiliau ac ehangu ymgysylltiad cynulleidfaoedd drwy wyliau a dangosiadau. Daeth buddsoddiad mewn stiwdios a phartneriaethau’r sector i’r amlwg fel sbardunau allweddol ar gyfer llwybrau datblygu talent a buddsoddiad creadigol pellach.

Mae sail dystiolaeth strwythuredig Wavehill yn rhoi fframwaith ymarferol i Greadigol Cymru lywio penderfyniadau cyllido yn y dyfodol a chefnogi twf parhaus sector sgrin Cymru.

Am fanylion llawn, gweler yr adroddiad cyhoeddedig.