Cyfunodd yr asesiad ddadansoddiad o ddata ariannol Galeri, arolygon o ymwelwyr a busnesau tenant, ymgynghoriadau â staff a modelu mewnbwn-allbwn er mwyn darparu golwg gynhwysfawr ar effaith economaidd uniongyrchol Galeri, yn ogystal â’r effaith ehangach a gaiff drwy alluogi busnesau lleol eraill ac annog twristiaeth i Wynedd. Adolygodd yr astudiaeth hefyd ddata o dair menter gymunedol fwyaf Galeri er mwyn deall eu cyfraniad cymdeithasol i’r gymuned leol.
Prif ganfyddiadau
- Cefnogwyd 91 o swyddi a £2.79 miliwn mewn GVA yng Ngwynedd ac Ynys Môn; a 100 o swyddi a £3.39 miliwn mewn GVA ledled y DU.
- Nododd busnesau tenant drosiant o £2.03 miliwn a 35 o staff wedi’u cyflogi.
- Gwerthwyd 67,000 o docynnau ar draws mwy na 2,200 o ddigwyddiadau; gyda hanner yr ymwelwyr yn gwario mewn busnesau lleol eraill.
- Cynhyrchodd ymwelwyr o’r tu allan i’r ardal £199,000 mewn GVA.
- Darparodd rhaglenni cymunedol £125,000 o werth cymdeithasol, gan ymgysylltu â grwpiau amrywiol.
Mae’r asesiad yn dangos rôl ehangach Galeri fel canolfan ddiwylliannol a sbardun busnes — gan feithrin rhwydweithiau lleol, cefnogi’r defnydd o’r Gymraeg a galluogi cyfranogiad ehangach yng Nghaernarfon a thu hwnt. Mae dull trylwyr a thryloyw Wavehill yn cynnig gwaelodlin i Galeri ar gyfer asesu effaith parhaus a chymharu dros amser.