Cyfraniad S4C at Gymru

Gwnaethom gyfuno modelu effaith economaidd meintiol, arolygon o gyflenwyr a rhanddeiliaid, adolygiad o lenyddiaeth ac ymgynghori â’r sector er mwyn dal effaith S4C ar draws gweithgarwch economaidd, y Gymraeg a diwylliant, ymgysylltiad cymunedol, addysg ac arferion amgylcheddol.

Prif ganfyddiadau

  • Mae S4C yn ganolog i gynnal a hyrwyddo’r Gymraeg, gan gefnogi cynnwys Cymraeg, adnoddau dysgu a chymunedau amrywiol ledled Cymru.
  • Cefnogodd S4C 2,500 o swyddi cyfwerth ag amser llawn (FTE) a chynhyrchodd £150.3 miliwn mewn GVA yng Nghymru drwy ei gweithgareddau, ei chadwyn gyflenwi a’i buddsoddiadau.
  • Ysgogodd buddsoddiadau strategol arloesedd a thwf yn y sector, gan ariannu stiwdios newydd, technoleg greadigol a channoedd o gyfleoedd hyfforddi yn y diwydiant.

Mae ein dadansoddiad wedi dangos rôl S4C fel catalydd ar gyfer arloesedd yn y diwydiannau creadigol, datblygu sgiliau a defnydd parhaus o’r Gymraeg. Fe wnaeth y canfyddiadau hefyd lywio ymgysylltiad S4C â DCMS ynghylch cyllid yn y dyfodol, gan gryfhau eu hachos drwy ddata effaith cadarn a thryloyw.

Cynhyrchwyd yr adroddiad terfynol yn ddwyieithog a’i gyhoeddi ar-lein er mwyn sicrhau tryloywder a hygyrchedd. Am ragor o fanylion, gweler adroddiad diweddaraf 2024/25 a darllenwch ein blog.