Dadansoddiad Ymgynghori: Llywio Strategaeth Bioamrywiaeth yr Alban

Ym mis Medi 2023, lansiodd Llywodraeth yr Alban ymgynghoriad cyhoeddus 14 wythnos i geisio barn rhanddeiliaid allweddol a’r cyhoedd er mwyn datblygu fframwaith i gefnogi gweledigaeth o natur gadarnhaol i’r Alban. Roedd hyn yn canolbwyntio ar sut y gall adfer bioamrywiaeth fod yn sail i economi a chymdeithas iach a ffyniannus. Bwriad yr ymgynghoriad oedd casglu mewnbwn ar ystod o bolisïau arfaethedig sy’n hanfodol er mwyn i’r Alban ddod yn natur gadarnhaol erbyn 2030 ac adfer ac adfywio bioamrywiaeth erbyn 2045. Er mwyn cyflawni’r weledigaeth hon a datblygu fframwaith cynhwysol, ystyriodd yr ymgynghoriad y canlynol:

Strategaeth Bioamrywiaeth yr Alban. Gweledigaeth lefel uchel i atal a gwrthdroi colled bioamrywiaeth ar draws holl gynefinoedd yr Alban.

Cynllun Cyflawni Cyntaf Pum Mlynedd. Camau gweithredu allweddol i gyflawni’r strategaeth, megis hwyluso prosiectau partneriaeth ar gyfer adfer tirweddau, cynyddu gwydnwch cynefinoedd arfordirol a morol, a rheoli pori defaid a dwysedd ceirw mewn modd cynaliadwy er mwyn gwella iechyd cyffredinol ecosystemau.

Bil yr Amgylchedd Naturiol Arfaethedig. Fframwaith ar gyfer sefydlu targedau natur statudol a newidiadau deddfwriaethol eraill arfaethedig, megis newidiadau i Ddeddf Parciau Cenedlaethol (yr Alban) 2000.

Ein hymagwedd

Penodwyd Wavehill ym mis Rhagfyr 2023 i gynnal dadansoddiad annibynnol a systematig o’r ymatebion i’r ymgynghoriad a dderbyniwyd. Derbyniwyd dros 650 o ymatebion i gyd, gan gynrychioli ystod o unigolion a rhanddeiliaid â diddordebau eang mewn gwahanol agweddau ar y fframwaith arfaethedig.

Cynhaliwyd dadansoddiad meintiol o’r holl ymatebion caeedig a dadansoddiad thematig manwl o’r holl ymatebion testun rhydd er mwyn dadansoddi safbwyntiau’r ymatebwyr. Drwy gynhyrchu dadansoddiad fesul cwestiwn o’r sylwadau a wnaed a chrynhoi themâu trawsbynciol allweddol, amlygodd ein dadansoddiad safbwyntiau amrywiol, themâu cyffredin a materion allweddol a godwyd.

Effaith

Ystyriwyd un o brif fwriadau dull Llywodraeth yr Alban o ymgynghori ac, o ganlyniad, datblygiad y fframwaith oedd canolbwyntio ar ‘gymdeithas gyfan’ a sicrhau cynrychiolaeth eang o leisiau’r Alban. Helpodd Wavehill i wireddu’r bwriad hwn drwy sicrhau bod pob ymateb yn cael ei ddarllen a’i ddadansoddi’n ofalus. Llywiodd ein dadansoddiad y Strategaeth Bioamrywiaeth derfynol yr Alban, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2024. Mae gwaith pellach ar y gweill ar hyn o bryd i wireddu’r strategaeth uchelgeisiol hon.