Tyfu Coedwig Genedlaethol Cymru
Comisiynodd Llywodraeth Cymru Wavehill ym mis Mehefin 2024 i gynnal gwerthusiad interim o raglen Coedwig Genedlaethol i Gymru, gan gwmpasu’r cyfnod cyflawni rhwng mis Medi 2022 a mis Hydref 2025.
Asesodd y gwerthusiad sut y cafodd mecanweithiau cyflawni’r rhaglen eu datblygu a’u gweithredu, gan gynnwys y llwybrau cyllido ar gyfer plannu coed a rheoli tir, yn ogystal â’r cymorth a ddarperir gan Swyddogion Cyswllt Coetiroedd i dirfeddianwyr. Archwiliodd hefyd sut mae cymunedau’n profi safleoedd coetir ar y cam interim hwn drwy ymweliadau safle, cyfweliadau, grwpiau ffocws ac arolwg cymunedol ar draws wyth safle astudiaeth achos. Yn ogystal, datblygodd y gwerthusiad argymhellion ynghylch sut y gallai’r rhaglen fesur ei heffaith gymdeithasol dros y tymor hwy.
Prif ganfyddiadau
• Roedd 93% o’r safleoedd yn y Cynllun Statws yn bodloni pob un o chwe chanlyniad lefel uchel y Goedwig Genedlaethol, nid dim ond yr un gofyniad gorfodol. Mae hyn yn dystiolaeth bod y model cyflawni yn ymgorffori safonau ansawdd sy’n mynd y tu hwnt i’r gofynion sylfaenol.
• Roedd 90% o ymatebwyr yr arolwg cymunedol yn cefnogi’r cysyniad o Goedwig Genedlaethol i Gymru, gyda 85% yn nodi gwelliant yn eu hiechyd corfforol ac 84% yn adrodd gwelliant yn eu lles meddyliol o ganlyniad i ymweld â’r safleoedd.
• Roedd gwirfoddolwyr yn ganolog i’r gwaith cyflawni ar draws pob un o’r wyth safle astudiaeth achos, gan gynnal gweithgarwch rheoli coetiroedd, cynhyrchu incwm drwy weithgareddau menter a chreu llwybrau i gyflogaeth â thâl.
Darllenwch yr adroddiadau: Gwerthusiad o’r trefniadau cyflawni | Profiad cymunedol a mesur effaith.
Mae argymhellion y gwerthusiad ynghylch mesur effaith yn y dyfodol yn llywio’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu datblygu’r sylfaen dystiolaeth ar gyfraniad y rhaglen at nodau llesiant a bioamrywiaeth cenedlaethol.