Atebion lleol i faterion lleol: Deall sut mae Cynghorau Tref a Chymuned yn mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw

Er bod sawl yn barod yn ymwybodol bod Cynghorau Cymuned a Thref yn darparu gwasanaethau gwerthfawr i’w trigolion, ein hymchwil oedd yr ymgais gyntaf i feintioli graddfa’r effeithiau hyn.

Llun o Rhys Maher yn dal papur yn cynnwys ei ganfyddiadau yng Nghynhadledd Un Llais Cymru

Wrth gasglu’r data hwn, roeddem yn gallu adeiladu model enillion cymdeithasol ar fuddsoddiad, sydd yn ystyried y mewnbwn a ddarperir gan gynghorau (o ran cyllid, staffio, cyfraniadau mewn nwyddau a gwirfoddolwyr) yn ogystal â’u canlyniadau allweddol, megis nifer y bobl a gefnogwyd sy’n buddio o ganolfannau cynnes neu weithgareddau ieuenctid. Gan ddefnyddio data ein harolwg yn ogystal â llenyddiaeth academaidd ehangach, roeddem yn gallu cyfrif am ffactorau allandol yn ein model a darparu amcangyfrif net o gyfanswm gwerth cymdeithasol a gynhyrchir gan y sector. Amcangyfrifodd ein dadansoddiad fod y sector wedi cynhyrchu £25.6 miliwn o effaith gymdeithasol yn 2025. Os hoffech wybod mwy, gallwch ddarllen ein hadroddiad llawn yma.

Rydym wedi gallu arddangos ein record cryf o ddatblygu cyfres bwrpasol o weithgareddau ymchwil i gefnogi anghenion tystiolaeth ein partneriaid. Mae gweithio gyda Thîm Costau Byw Un Llais Cymru wedi ein galluogi i feintioli’r gwerth a grëir gan y sector hwn ac arddangos cyfraniadau pwysig Cynghorau ar lefel lleol ledled Cymru.

Os hoffech ragor o wybodaeth am waith ymchwil Wavehill, gan gynnwys ein hasesiadau effaith gymdeithasol, cysylltwch â Rhys Maher (rhys.maher@wavehill.com) neu Jakob Abekhon (jakob.abekhon@wavehill.com).