Archwilio a allai Rhanbarth Prifddinas Caerdydd ddod yn lle sy’n talu’r Cyflog Byw Gwirioneddol
Ym mis Ionawr 2026, comisiynwyd Wavehill gan Ranbarth Prifddinas Caerdydd (CCR) i asesu dichonoldeb datblygu’r rhanbarth fel lleoliad cydnabyddedig sy’n gweithredu’r Cyflog Byw Gwirioneddol (RLW).
Cyfunodd yr astudiaeth adolygiad tystiolaeth strategol, dadansoddiad cymharol ac ymgysylltiad â rhanddeiliaid er mwyn archwilio’r cyfleoedd a’r heriau sy’n gysylltiedig â hyrwyddo’r Cyflog Byw Gwirioneddol ar draws y rhanbarth. Cynhaliodd Wavehill adolygiad strwythuredig ar sail desg, gan ddechrau gydag asesiad o’r dystiolaeth ymchwil bresennol ar fanteision, risgiau ac oblygiadau ehangach mabwysiadu’r Cyflog Byw Gwirioneddol. Ategwyd hyn gan adolygiad o leoedd cydnabyddedig sy’n gweithredu’r Cyflog Byw Gwirioneddol ledled y DU er mwyn deall y gwahanol fodelau cyflawni, trefniadau llywodraethu ac ymagweddau a ddefnyddir i ysgogi ymgysylltiad cyflogwyr.
Ynghyd â hyn, buom yn mapio rhanddeiliaid allweddol ar draws y sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector yn Ne-ddwyrain Cymru a allai chwarae rôl wrth gefnogi neu hyrwyddo dull rhanbarthol o weithredu’r Cyflog Byw Gwirioneddol.
Gan adeiladu ar y sail dystiolaeth hon, nodwyd rhestr fer o ardaloedd cymharol a chynhaliwyd cyfres o gyfweliadau er mwyn archwilio eu profiadau yn fanylach. Arweiniodd hyn at ystod o astudiaethau achos o leoedd eraill sy’n gweithredu’r Cyflog Byw Gwirioneddol, gan archwilio modelau cyflawni, arferion da, heriau gweithredu a’r gwersi a ddysgwyd. Er mwyn profi perthnasedd a dichonoldeb y dulliau hyn yng nghyd-destun De-ddwyrain Cymru, buom yn gweithio gyda CCR i ymgysylltu â rhanddeiliaid rhanbarthol, gan gynnal cyfweliadau ar draws sefydliadau a allai ddylanwadu ar fenter ranbarthol yn y dyfodol, ei chefnogi neu helpu i’w chyflawni.
Cafodd canfyddiadau’r adolygiad desg, yr ymgysylltiad â rhanddeiliaid a’r astudiaethau achos cymharol eu dwyn ynghyd mewn papur polisi a chyflwyniad ar gyfer CCR. Bydd y gwaith yn darparu asesiad sy’n seiliedig ar dystiolaeth o ddichonoldeb datblygu Rhanbarth Prifddinas Caerdydd fel lle sy’n cael ei gydnabod am weithredu’r Cyflog Byw Gwirioneddol, ynghyd ag argymhellion ymarferol i lywio datblygiad strategaeth dlodi sy’n dod i’r amlwg gan CCR a chamau gweithredu yn y dyfodol i fynd i’r afael â thlodi mewn gwaith ar draws y rhanbarth.