Effaith economaidd fferm wynt arfaethedig Garn Fach
Gan weithio gyda Dulas ar ran EDF Renewables UK, cynhaliodd Wavehill adolygiad cwmpasu ac asesiad o’r effaith economaidd-gymdeithasol ar gyfer fferm wynt Garn Fach fel rhan o’r broses o baratoi cais cynllunio ar gyfer Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol. Cynlluniwyd yr asesiad economaidd-gymdeithasol i werthuso sut y byddai’r datblygiad arfaethedig yn effeithio ar yr economi ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol.
Cyfunodd yr asesiad adolygiad o’r dystiolaeth, mewnwelediadau gan randdeiliaid a modelu economaidd er mwyn meithrin dealltwriaeth strwythuredig o’r effeithiau posibl yn ystod cyfnodau adeiladu a gweithredu’r datblygiad. Yn ogystal, ystyriodd yr asesiad effaith cronfa budd cymunedol a sut y gallai’r datblygiad effeithio ar ddefnydd hamdden o’r safle a’r ardal gyfagos.
Sefydlodd y gwaith y llinell sylfaen economaidd, gan gynnwys lefelau cyflogaeth, cyfansoddiad sectorau a phatrymau enillion. Nododd economi leol a oedd yn cael ei nodweddu gan bresenoldeb sylweddol o ficrofusnesau ac amrywiadau rhwng enillion preswylwyr ac enillion yn y gweithle.
Archwiliodd y modelu economaidd sut y gallai buddsoddiad lifo drwy’r economi a pha gyfran o’r buddsoddiad a fyddai’n cael ei chadw’n lleol ac o fewn Cymru. Asesodd hefyd botensial y gadwyn gyflenwi leol ac effeithiau gwariant gweithwyr. Meintiolodd yr asesiad y Gwerth Ychwanegol Crynswth (GYC) a’r cyflogaeth gysylltiedig, gan gynnwys effeithiau lluosydd.
Dangosodd y canfyddiadau y byddai’r gwariant yn cael ei ddosbarthu ar draws gwahanol ardaloedd daearyddol a chyfnodau’r prosiect, gyda’r cyfnod adeiladu yn cyfrif am gyfran sylweddol o’r buddsoddiad cyffredinol, tra byddai’r cyfnod gweithredu yn cynhyrchu effeithiau economaidd blynyddol parhaus. Er bod llawer o gydrannau fferm wynt yn cael eu gweithgynhyrchu dramor, nododd yr adolygiad gyfleoedd i fusnesau yng Nghymru gefnogi’r gadwyn gyflenwi, yn ogystal â rôl marchnad lafur Cymru wrth ddarparu’r sgiliau perthnasol.
Cyfrannodd ymgysylltu â rhanddeiliaid at ddealltwriaeth o flaenoriaethau lleol a helpu i lywio’r ffordd y gallai’r manteision economaidd gyd-fynd ag anghenion y gymuned.
Cyflwynwyd pennod derfynol yr Asesiad Economaidd-Gymdeithasol yn y Datganiad Amgylcheddol fel rhan o’r cais cynllunio, a chymeradwywyd fferm wynt Garn Fach gan y Gweinidogion. Ers hynny, mae Wavehill wedi bod yn gweithio gydag EDF ar rai estyniadau posibl i’r safle arfaethedig.
Mae’r adroddiad ar gael i’w ddarllen yma.