Adolygiad Strategol o Gymorth Llywodraeth Cymru i’r Sector Bwyd a Diod
Beth a ganfuom
Canfu’r adolygiad fod Cymru wedi elwa ar becyn eang ac, yn gyffredinol, cyflenwol o gymorth. Roedd busnesau’n gallu cael mynediad at wahanol fathau o gymorth ar wahanol gamau o’u datblygiad, gan gynnwys hyfforddiant, arbenigedd technegol, cyngor busnes, rhwydweithiau cydweithredol a chyllid buddsoddi.
Amlygodd yr ymchwil hefyd gyfleoedd i wella’r integreiddio rhwng gwasanaethau, symleiddio mynediad at gymorth, a chryfhau llwybrau atgyfeirio er mwyn helpu busnesau i lywio’r dirwedd gymorth yn fwy effeithiol.
Pam mae hyn yn bwysig
Rhoddodd yr adolygiad asesiad trosfwaol i Lywodraeth Cymru o’r ffordd yr oedd cymorth i’r sector bwyd a diod yn gweithredu fel pecyn cydlynol yn hytrach nag fel rhaglenni unigol. Defnyddiwyd y canfyddiadau i lywio penderfyniadau ynghylch dyluniad, cydlynu a thargedu cymorth yn y dyfodol ar gyfer un o sectorau economaidd blaenoriaeth Cymru yn dilyn diwedd y rhaglenni a ariannwyd gan yr Undeb Ewropeaidd.
Am ragor o wybodaeth am y prosiect hwn, cysylltwch ag Ioan Teifi – ioan.teifi@wavehill.com
Mae’r adroddiad ar gael i’w ddarllen yma.