Adferiad natur ar raddfa genedlaethol
Buddsoddodd Rownd 2 y Gronfa Her Adferiad Gwyrdd £40 miliwn mewn 90 o brosiectau natur ledled Lloegr, yn cwmpasu adfer cynefinoedd, addasu i’r newid yn yr hinsawdd ac ymgysylltu â’r cyhoedd. Comisiynodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol Wavehill ym mis Chwefror 2022 i gynnal gwerthusiad annibynnol o’r ffordd y gwnaeth y buddsoddiad hwn gyfrannu at gyflawni’r prosiectau, y canlyniadau a gyflawnwyd, a’u gwerth am arian.