Achos Busnes a
Ceisiadau Cyllid
Mae holl gymorth y llywodraeth a llawer o gymorth anllywodraethol yn dilyn dull tebyg o ddyrannu cyllid. Mae hyn yn canolbwyntio ar ddangos gwerth ac effaith eich prosiect posibl ar gyfer eich cyllidwyr, ar gyfer eich derbynwyr ac yn gynyddol, ar gyfer y gymuned ehangach. Rydym yn cydweithio’n agos â chi ar bob cam o’r broses ymgeisio am arian i ddatblygu eich syniadau i’ch helpu i ariannu eich menter.
Yn Wavehill rydym yn:
-
Yn brofiadol mewn datblygu achosion busnes cadarn gan ddefnyddio model busnes pum achos Llyfr Gwyrdd Trysorlys Ei Mawrhydi. Gallwn hefyd arfarnu eich prosiect neu ystod o opsiynau prosiect i chi gan ddefnyddio methodolegau’r Llyfr Gwyrdd i’ch cefnogi gyda datblygu achos busnes, neu i wneud penderfyniadau am beth i fuddsoddi ynddo.
-
Yn gallu ysgrifennu eich cais am arian. P'un a yw hyn yn eich helpu i ysgrifennu’s holl cais neu'n gweithio ochr yn ochr â chi ac yn canolbwyntio ar yr adrannau technegol e.e. yr achos economaidd, byddwn yn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â chanllawiau'r llywodraeth ac wedi'i sefydlu ar gyfer llwyddiant.
Yn Wavehill rydym yn gweithio efo chi i ddeall yr hyn yr ydych am i'ch prosiect ei gyflawni, a sut orau y gallwn lunio achos busnes y prosiect neu'r cais am gyllid i fod yn llwyddiannus. Mae ein hymagwedd yn sicrhau bod gan eich prosiect sylfaen dystiolaeth eang, sydd wedi’i seilio ar ddulliau Llyfr Gwyrdd Trysorlys Ei Mawrhydi. Yn Wavehill gallwn gyfuno ein harbenigedd dwfn ar draws gwahanol sectorau a meysydd polisi i gefnogi eich menter yn y ffordd orau bosibl.