Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn hanfodol drwy gydol y flwyddyn. Mae Mis Balchder yn rhoi amser inni oedi a myfyrio ar ein gweithredoedd a’n dulliau. Mae sut rydym yn ymgymryd â’n hymchwil i fod yn fwy cynhwysol yn rhan hanfodol o’r myfyrdod hwn. Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym wedi bod yn ymgymryd â llawer o waith yn fewnol i adolygu a chryfhau ein harferion a’n dulliau ymchwil cynhwysol. I ni, mae hyn yn bwysig er mwyn sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed a’i gynrychioli. Mae ymgysylltu â chymunedau amrywiol, fel y gymuned LGBTQ+, yn cyfoethogi ein dealltwriaeth ac yn cryfhau’r canlyniadau ar gyfer y cymunedau hynny rydym yn ymgysylltu â nhw.
Mae ymwybyddiaeth fwy yn sbarduno arloesedd a chynnydd. Mae’n cefnogi gwneud penderfyniadau mwy cynhwysol a gwybodus. Bu newid yn y ffordd y mae ein diwydiant yn ymgorffori lleisiau amrywiol mewn arferion gwerthuso. Er enghraifft, roedd newidiadau i’r cyfrifiad diwethaf yn cynnwys cwestiynau dyfnach am y gymuned LHDTC+. Gellir gwneud mwy. Drwy ymgorffori safbwyntiau amrywiol yn weithredol, gallwn sbarduno newid ystyrlon a meithrin amgylchedd lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gweld a’u parchu.
Mae’r Gymdeithas Ymchwil Marchnad (MRS) wedi datblygu Addewid Cynhwysiant. Mae un o’r pileri yn canolbwyntio ar ddylunio a chynnal ymchwil, gan ganolbwyntio ar gynrychiolaeth i bawb. Mae’n cynnwys:
-
Ystyriaeth weithredol o ddyluniadau a methodolegau ymchwil cynhwysol
-
Cyfathrebu tryloyw o’r arfer samplu o fewn prosiectau, yn enwedig pan fo honiadau o gynrychiolaeth genedlaethol i’w gwneud
Fel llofnodwyr balch i’r addewid hwn, rydym wedi defnyddio addewid MRS fel fframwaith i strwythuro ein dull Ecwiti, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) i adlewyrchu ein hymrwymiadau’n well ar draws pob maes o’r addewid. Mae hyn yn cynnwys ymrwymiadau ynghylch cyflog staff, amrywio cynrychiolaeth staff ac uwch arweinyddiaeth, a chreu diwylliant croesawgar a diogel i bawb yr ydym yn gweithio gyda nhw. Fel fframwaith, mae wedi rhoi strwythur inni ar gyfer ein dull EDI ar draws ein holl arferion gwaith sy’n sicrhau atebolrwydd wrth i ni barhau i symud ymlaen ac esblygu.